Myvideo

Guest

Login

Amser Codi Lan | Adwaith (CAN NEWYDD / NEW SONG)

Uploaded By: Myvideo
1 view
0
0 votes
0

O dawelwch llonydd gardd gefn yn Grangetown, Caerdydd, dyma berfformiad acwstig arbennig gan Hollie Singer, cantores Adwaith. Yn ystod y pandemig eleni mae Adwaith wedi cymryd mantais o’r cyfnod tawel i gyfansoddi llwyth o ganeuon newydd ar gyfer albwm newydd y band. Roedd Lwp yn ddigon ffodus i gael blas bach cynnar o un o’r caneuon yma yn ddiweddar a dyma hi i chi ei mwynhau. Wedi llwyddiant albwm gyntaf Adwaith, Melyn gafodd ei ryddhau yn 2018, mawr ydi’r edrych ymlaen at yr ail albwm, ac os ydi’r gân yma yn unrhyw adlewyrchiad o’r hyn sydd i ddod, chawn ni ddim ein siomi! * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * From the urban tranquillity of a Grangetown, Cardiff back garden, comes this very special acoustic performance by Hollie Singer, lead singer of Adwaith. During the lockdown this year, Adwaith have taken advantage of the free time to compose and prepare for their forthcoming, much anticipated second album. Lwp were fortunate enough to to sample one of these new musical delights in acoustic form, and here it is now for all too see. Following the success of Melyn, Adwaith’s first album, the expectations are high for the second album, but if Amser Codi Lan is anything to go by, we are very much in for a treat! Gwasga'r botwm 'Subscribe' i gael y fideos diweddara. Twitter - @Lwps4c Facebook - @Lwps4c Instagram - @Lwps4c

Share with your friends

Link:

Embed:

Video Size:

Custom size:

x

Add to Playlist:

Favorites
My Playlist
Watch Later