Myvideo

Guest

Login

PL-DROED BYW: Pen-y-bont v Y Seintiau Newydd | JD Cymru Premier

Uploaded By: Myvideo
1 view
0
0 votes
0

Pen-y-bont (1af) v Y Seintiau Newydd (4ydd) | Nos Wener – 19:45 (Yn fyw arlein)  Er gorffen y tymor diwethaf yn y Chwech Isaf, Pen-y-bont sy’n arwain y pac yn y Cymru Premier JD eleni, yn eistedd ar frig y tabl ar ôl ennill pedair gêm gynghrair yn olynol.  Dyw Pen-y-bont m’ond wedi colli un o’u 17 gêm gystadleuol ddiwethaf, a dim ond dwy gôl y mae tîm Rhys Griffiths wedi eu hildio mewn saith gêm gynghrair y tymor hwn.  Mae’r Seintiau Newydd wedi ennill pob un o’u pedair gêm gynghrair hyd yma, ond oherwydd prysurdeb y gemau Ewropeaidd mae gan y pencampwyr dair gêm gynghrair wrth gefn.  Ar ôl curo’r Barri o 4-0 y penwythnos diwethaf, mae cewri Croesoswallt bellach wedi ennill 30 gêm gynghrair yn olynol, ac heb golli’n y Cymru Premier JD ers Chwefror 2023 (Met 3-2 YSN).  Mae’r clybiau yma wedi cyfarfod ar 19 achlysur, a dyw’r Seintiau erioed wedi colli yn erbyn tîm Rhys Griffiths (ennill 15, cyfartal 4), gan sgorio 12 gôl yn eu tair gornest ddiwethaf.  Roedd ‘na lwyddiant i’r ddau glwb yng nghanol wythnos wrth i Ben-y-bont guro Hwlffordd yn nhrydedd rownd Cwpan Nathaniel MG, a’r Seintiau’n curo Airbus UK.    Record cynghrair diweddar:   Pen-y-bont: ͏➖✅✅✅✅  Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅

Share with your friends

Link:

Embed:

Video Size:

Custom size:

x

Add to Playlist:

Favorites
My Playlist
Watch Later